+ Visit Cardiff FC for Latest News, Transfer Gossip, Fixtures and Match Results
Results 1 to 22 of 22

Thread: Malcolm Allen

  1. #1

    Malcolm Allen

    Mae fy cymraeg fi yn warthus on y mae yr hogen Allen yn gwisgo ei calon ar ein llewys fel mae nw yn dwaed..mae fy traegladau fi'n wael hefyd. dwi am yrmafer mwy.

  2. #2

    Re: Malcolm Allen

    Paid a becso am dy dreigladau. Mae dy Gymraeg yn iawn. Ti ddim yn darllen y newyddion ar S4C!

    Rwy'n cytuno gyda ti am Malcolm Allen. Sylwebydd naturiol iawn sydd yn dweud beth sydd ar ei feddwl - dim sgript o gwbl.

  3. #3

    Re: Malcolm Allen

    Diolch. Mae en neud fi chwerthyn pan dwin grando I radio wales am bell waith a chin gallu clywed e yn sgrechi yn y cefendir wrth sylweddu am radio Cymru . Dwin ddim ond yn gwilio , grando I gemau Cymru yn cymraeg. Ond yn mind dros I clywed Rob Phillips sylweddu am fined neu dwy. Yr gemau yr City. Am Rhiw rheswm Mae nw ddim ar y radio yn yr wythnos. Diolch am dy ateb. Dwi am siarad mwy o cymraeg. Gobeithio fod e ddim yn rhi poenus I ddarllen. Joe

  4. #4

    Re: Malcolm Allen

    Dim problem boi. Ddim yn boenus i ddarllen o gwbl, gret bod ti'n ymarfer dy Gymraeg.

    Est ti i'r gem neithiwr? Credu bod angen chwaraewyr newydd yng nghanol y cae. Ni'n colli Aron. Dwi ddim yn hoff iawn o Damour neu Bryson. Hoffwn i weld rhywun fel Jordon Mutch, rhywun sydd yn rhedeg yn dda gyda'r bel ac sydd yn gallu sgorio.

  5. #5

    Re: Malcolm Allen

    Mi welais fy yr gem at y teledu. Yn aros gyda fy mam am wyhnos. Cytuno am yr midfield. Dwin meddwl yr un peth. Chwaraewr tebyg I Mutch. Sydd Angen. Nid iw Mutch yn chwarae ar y foment. Mae e yn haner fordd rhwng Gunnar ac Tomlin oes tin Nabod beth dwi'n dwead. Mae angen coesau fres. Gobeithio y fod Tan wedi Cofio ei llyfr cheque wrth dod i aros yn prydain dros yr gwiliau. Maer tim wedi neud yn andros o dda ond mae nw angen gwthiad fach eto o Tan i cwrdd a nw yn y canol.

  6. #6

    Re: Malcolm Allen

    Est ti i'r gem heddiw? Roedd e'n warthus! Oer iawn hefyd, erbyn y diwedd. Yn bendant mae angen chwaraewyr newydd. Cyfle i ni weld pa mor dda mae Warnock.

  7. #7

    Re: Malcolm Allen

    Flin geni Grojek. Na welais yr ateb chi. Gobeithio am cynluniad dda at dydd sul. Dwi'n edrych ymlaen I weld yr stadiwm yn lawn. Mae yna rhiw faint o henlle ar y fwrdd saesneg gyda pobl yn cwympo mas. Chi wedii gweld e I gid o flaen trwy fod. Mae fy tocen ddim wedi cyraedd eto am dydd sul and Mae hwna yn pwnc eraill. Tria 50 pwnc ar y bwrdd llawn.

  8. #8

    Re: Malcolm Allen

    A flin gen i hefyd. Rwy'n cytuno gyda ti am bobl yn cwympo mas. Dwi newydd ymateb i dml1954. Mae e'n foi rhyfedd. Ges i ymateb sarcastic iawn gyda fe, felly dwi wedi ymateb yn yr un ffordd. Dydy e ddim yn fodlon gydag unrhyw un yn ffeindio bai mewn unrhyw beth mae'r clwb yn gwneud. Siwr ei fod yn un o'r directors neu rhywbeth!

    Ti'n hapus gyda busnes ni yn ystod mis Ionawr?

  9. #9

    Re: Malcolm Allen

    Dim problem. Ateb o tro I tro yn dda I fi foi. Dwin meddwl VT yw e weithiau hefyd. Dwin sulw fod ambell waith my rhai or fechgyn ddim yn digon hapus I rthoi ei sulw drossod Mae nw yn teimlo fod mse angen nhw rhoi y pwynt arall I lawr hefyd.

    Eitha fodlon guda fisness Ionawr
    Mae gen I teimlad rydym ni wedi neud camgemariad talu I gid or press at Madine ond ambell with y Mae bechgyn mawr a cruff fel e yn tyfi lan yn yr gem gyda oedran ac yn nabod sit I defnydfio ei cyrff. Gobeithio hwn ta waith.

    Oedd fin gobeithio am rhiwyn arall yn yr midfield. Rhiwyn syn gallu pasio yr bel.

    Mae e yn galed yn Ionawr ac nad ydim ni yn gallu talur cyflog y Mae Wolves, Villa et .

    Gewn ni weld.

  10. #10

    Re: Malcolm Allen

    Cytuno gyda ti am Madine. Am y tro cyntaf, dwi ddim yn hapus iawn gyda'r chwarewyr mae Warnock wedi dod i'r clwb. Dwi'n hoff iawn ohono fe, ond ddim yn meddwl bod angen Jamie Ward. Hefyd rydyn ni wedi talu gormod o arian am Gary Madine.

    Rwy'n gobeithio bydd Grujic yn datblygu yn y misoedd nesaf. Ni'n gweld eisiau Aron yn bendant.

  11. #11

    Re: Malcolm Allen

    Cytuno gyda pobpeth chin dweud. Dwin meddwl y teimlad ambyti Ward gan Warnock yw fod en cyrff arall dybunol sin mind I rhedeg a chwysu amdano fo. Nid oedd Tomlin yn mind I neud hwna mwy ywr siom ond yr amser dros yr nadolig wedi efeithio Warnock effallai ac Mae ateb e pob tro i problem yw chwys. Dwin meddwl y fod Traore yn gallu bod yn chwaraewr sin mind I chwarae rhan I'm ni. Oes mae e yn chwarae yn dda am y 2 gem nesa y fydd en diddorol I weld a oes Bennett yn mind sydd I nol yn yr tim. Mae genni teimlad ambyti Warnock ai 'grudges' fel petai.

  12. #12

    Re: Malcolm Allen

    Ges i sioc neithiwr i weld Sol ar y fainc. Roeddwn ni'n meddwl taw Morrison/Bamba oedd hoff gyfuniad Warnock, nid Morrison/Manga. Dwi'n hoffi'r tri ohonyn nhw, felly does dim lot o ots gen i.

    Ti'n iawn am y chwys....work rate fel mae'r Saes yn dweud. Credu bod Warnock yn hoffi cymysgedd o chwaraewyr dawnus, cyflym (fel Hoilett, NML, Zohore, Grujic) a'r rhai sydd yn gweithio'n galed (Peltier, Ralls, Bryson, Ward, Madine etc).

    Dwi'n hoffi ti'n defnyddio'r gair "ambyti". Mae hynny'n gair hen ffasiwn o'r cymoedd!

  13. #13

    Re: Malcolm Allen

    Quote Originally Posted by Gnojek View Post

    Ambyti Flin geni am peido ateb chi. Dim yn wneud e i bod yn ddiflas. Rydw I wedi bod yn bostio ar yr bwrdd arall. Ti'n iawn? Mae'r tim yn edrych heb balans I fi am y tro. Mae rhiwbeth wedi mind yn sal yn canol yr cae. Dwi ddim am roi pobeth ar drws Gunnar ond nid ydw ni'n chwarea gudar un tempo er daith ef nol. Rhy symil I dwaed fod Gunnar si ar bai ond mae rhywbeth wedi digwydd.

  14. #14

    Re: Malcolm Allen

    Pa fwrdd arall.....**** neu OOCC?

  15. #15

    Re: Malcolm Allen

    OOCC. Dwi'n hoffi yr ddau bwrth. Mwy o beldroed ar y fwrrd yma ond maer bwrdd arall gyda popbl dwi'h hoffi si oedd yn arfer bostio fan yma. Maer bwrth arall yn eiddaf ddonioal ar arfau. Mae angen canlyniad i fwrdd i Norwich ar y pen-wythnos. Dwi'n meddwl y fusdde yn gem galed arall. Gobeithio fod Ken yn gallu feindio rhiw fath o 'form' eto.

  16. #16

    Re: Malcolm Allen

    Shw mae! Wyt ti dal ar y bwrdd yma? Est ti i'r gem ddoe? Diwrnod i fwynhau, heb os.

  17. #17

    Re: Malcolm Allen

    Newydd ail-ddechrau postio ar hwn ers cwpwl fisoedd, ddim yn gwneud llawer, ond nes i sylwi bod llawer or hen enwau ddim ar hwn, ac wedi sylwi wedi i chi ddeud bod nhw ar OOCC...

    Pam bo nhw wedi cychwyn y bwrdd yna? Odd genai'm syniad bod o'n bodoli tan nawr, gwneud synnwyr.

  18. #18

    Re: Malcolm Allen

    Son am sylwebwyr... ma john hartson yn tueddu i ddefnyddio lot o eiriau bach neu termau yn y saesneg. Dwin ffindio fen doniol os unrhyw beth.

    Dwin cydymdeimlon llwyr gyda fe achos ma llawer o dermau peldroed yn amhosib cyfieithu weden i, yn enwedig os mae gyd o dy brofiad yn gem wedi cael eu dreulio yn Lloeger/Yr Alban.

    Through the channels
    Sending off offence
    VAR
    Bend it round the wall
    Backpass
    Lone frontman
    Wing-back

    Basen i’n stryglo i gyfieithu yr uchod (er enghraifft).

  19. #19

    Re: Malcolm Allen

    Quote Originally Posted by pgbluebird View Post
    Newydd ail-ddechrau postio ar hwn ers cwpwl fisoedd, ddim yn gwneud llawer, ond nes i sylwi bod llawer or hen enwau ddim ar hwn, ac wedi sylwi wedi i chi ddeud bod nhw ar OOCC...

    Pam bo nhw wedi cychwyn y bwrdd yna? Odd genai'm syniad bod o'n bodoli tan nawr, gwneud synnwyr.
    Dwi ddim yn siwr. Dyma'r bwrdd dwi'n hoffi. Mae ambell un sydd wedi mynd draw i OOCC yn golled, ond mae dal digon o bobl da sy'n sy'n gwneud sylwadau yma.

  20. #20

    Re: Malcolm Allen

    Quote Originally Posted by Divine Wright View Post
    Son am sylwebwyr... ma john hartson yn tueddu i ddefnyddio lot o eiriau bach neu termau yn y saesneg. Dwin ffindio fen doniol os unrhyw beth.

    Dwin cydymdeimlon llwyr gyda fe achos ma llawer o dermau peldroed yn amhosib cyfieithu weden i, yn enwedig os mae gyd o dy brofiad yn gem wedi cael eu dreulio yn Lloeger/Yr Alban.

    Through the channels
    Sending off offence
    VAR
    Bend it round the wall
    Backpass
    Lone frontman
    Wing-back

    Basen i’n stryglo i gyfieithu yr uchod (er enghraifft).
    Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.

  21. #21

    Re: Malcolm Allen

    Quote Originally Posted by Gnojek View Post
    Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.

    Dwi wedi ail-ystyried fy marn ar JH a ie, tin hollol iawn, ma fe i weld yn cymrud y piss erbyn hyn! Dwin meddwl os unrhyw beth mae ei gymraeg wedi gwaethygu dros y flynyddoedd. Dwin tiwno mewn ir gemau rhyngwladol a win ffindio hin anghredadwy ar adegau fel mae JH yn gallu gweud bron o fod brawddeg llawn yn yr iaith faen gyda ambell i "a" neu "ond" rhwngddo dwsin o eirie yn y sisneg. Hollol gwallgof bod e dal yn yn cael ei ysyried fel sylwebydd/pwndit.

    Yng ngwrthwyneb, dwin meddwl fod Gwennan Harries yn ardderchog. Mae ei chymraeg yn cywir iawn (o be dwin deall) a ma be maen gweud yn hollol synhwyrol .

  22. #22

    Cytuno gyda ti am Gwennan Harries. Mae ei Chymraeg hi yn dda iawn. Efallai ro'n ni'n hallt gyda fy sylwadau am John Hartson. Hawdd i feirniadu fe, yn enwedig gan ei fod nawr yn byw i ffwrdd o Gymru (rwy'n credu?). Ond fel wedais i, mae e ar bob gem Cymru ac er dwi'n teimlo'n wael yn dweud hyn, sai'n gweld ei Gymraeg yn gwella. S4C yn amlwg yn cyflogi fe gan ei fod yn enw mawr, ond mae'r lefel o "Wenglish" yn anhygoel ar adegau.

    Esiampl da o rhywun sydd wedi gwella ei Gymraeg ers fod ar y teledu yw Andrew Coombs (rygbi). Mae e'n dod o bentref sy'n agos i le dwi'n byw yn y cymoedd. Lot o ysgolion Cymraeg o gwmpas yma ond wnei di ddim clywed lot o Gymraeg ar y stryd, mewn siopau etc. Dwi ddim yn ei nabod ond dwi'n cymryd wnaeth e ddim defnyddio'r iaith lot ar ol gadael ysgol, ond mae safon ei Gymraeg ar S4C yn dda iawn....a fel ti'n dweud am Gwennan Harries, mae e'n siarad lot o sens hefyd.

Posting Permissions

  • You may not post new threads
  • You may not post replies
  • You may not post attachments
  • You may not edit your posts
  •