Quote Originally Posted by Divine Wright View Post
Son am sylwebwyr... ma john hartson yn tueddu i ddefnyddio lot o eiriau bach neu termau yn y saesneg. Dwin ffindio fen doniol os unrhyw beth.

Dwin cydymdeimlon llwyr gyda fe achos ma llawer o dermau peldroed yn amhosib cyfieithu weden i, yn enwedig os mae gyd o dy brofiad yn gem wedi cael eu dreulio yn Lloeger/Yr Alban.

Through the channels
Sending off offence
VAR
Bend it round the wall
Backpass
Lone frontman
Wing-back

Basen i’n stryglo i gyfieithu yr uchod (er enghraifft).
Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.