Gêm Lerpwl...unrhyw gobaith!?
Dwi ddim yn siŵr os mae amddiffyn yn drylwyr yw’r ffordd i gael canlyniad o’r gem ma. Yn amlwg bydd rhaid i ni wrthod ymosod Lerpwl a gobeithio am fach o lwc ond bydd rhaid i ni wrthymosod rhyw ffordd neur llall.
Dwin rhagweld system yn debyg i gem spurs. Paterson lan top ar ben ei hun. Pump yn canol cae...gunnar, camarasa, arter a reid a murphy ar yr esgyll.
Dwi hefyd yn meddwl falle bydd rhaid ni anelu at steil bach mwy ymosodol achos bydd Lerpwl yn sicr o sgorio o leua un neu ddau gol.
Re: Gêm Lerpwl...unrhyw gobaith!?
Quote:
Originally Posted by
Divine Wright

Bydd hi'n anodd... Dwi'n meddwl na'r peth pwysicaf ydy rhoi cyfle i'r un tim ddechrau dwy gem yn olynol am y tro cyntaf (?) y tymor hwn, a rhoi hyd yn oed mwy o hyder i'r tim wedi buddugoliaeth. Un peth sy'n sicr yw bydd y teimlad ofewn y garfan y gorau mae wedi bod drwy'r tymor felly pwy a wyr beth ddigwyddith.
Dw i ddim yn hyderus, ond ar yr un pryd fyswn i ddim yn synnu petawn ni'n dwyn pwynt. Bechod mewn ffordd bod Arter heb gael melyn arall - tebyg iddo golli gem bwysicach rwan...
Re: Gêm Lerpwl...unrhyw gobaith!?
Quote:
Originally Posted by
pgbluebird
Bydd hi'n anodd... Dwi'n meddwl na'r peth pwysicaf ydy rhoi cyfle i'r un tim ddechrau dwy gem yn olynol am y tro cyntaf (?) y tymor hwn, a rhoi hyd yn oed mwy o hyder i'r tim wedi buddugoliaeth. Un peth sy'n sicr yw bydd y teimlad ofewn y garfan y gorau mae wedi bod drwy'r tymor felly pwy a wyr beth ddigwyddith.
Dw i ddim yn hyderus, ond ar yr un pryd fyswn i ddim yn synnu petawn ni'n dwyn pwynt. Bechod mewn ffordd bod Arter heb gael melyn arall - tebyg iddo golli gem bwysicach rwan...
Druan amdano Arter aye. Oni heb sylweddoli bod e ffaelu chware achos cerdie melyn. Dwin stryglan braidd i feddwl am unrhyw un digon dawnus a chreadigol i allu cymryd ei le a chynnig safon cymharol effeithlon. Falle gwthio Camarasa uwch lan y cae a gadel Ralls a Gunnar i chware rôl ganol cae amddiffynnol. Fath o 4-5-1 yn troi’n 4-2-3-1 wrth wrthymosod.
Fel tin gweud, bydd angen dibynnu ar gwaith tîm a’r hwb seicolegol ar ôl curo fulham.
Siŵr o fod yn beth positif bod Lerpwl yn chware champs league nos fercher hefyd. Ma gyda nhw 3/4 o’u chwaraewyr pwysig yn dod nol o anafiadau hefyd.
2-2