Quote Originally Posted by Gnojek View Post
Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.


Dwi wedi ail-ystyried fy marn ar JH a ie, tin hollol iawn, ma fe i weld yn cymrud y piss erbyn hyn! Dwin meddwl os unrhyw beth mae ei gymraeg wedi gwaethygu dros y flynyddoedd. Dwin tiwno mewn ir gemau rhyngwladol a win ffindio hin anghredadwy ar adegau fel mae JH yn gallu gweud bron o fod brawddeg llawn yn yr iaith faen gyda ambell i "a" neu "ond" rhwngddo dwsin o eirie yn y sisneg. Hollol gwallgof bod e dal yn yn cael ei ysyried fel sylwebydd/pwndit.

Yng ngwrthwyneb, dwin meddwl fod Gwennan Harries yn ardderchog. Mae ei chymraeg yn cywir iawn (o be dwin deall) a ma be maen gweud yn hollol synhwyrol .