Quote Originally Posted by Divine Wright View Post
Dwi wedi ail-ystyried fy marn ar JH a ie, tin hollol iawn, ma fe i weld yn cymrud y piss erbyn hyn! Dwin meddwl os unrhyw beth mae ei gymraeg wedi gwaethygu dros y flynyddoedd. Dwin tiwno mewn ir gemau rhyngwladol a win ffindio hin anghredadwy ar adegau fel mae JH yn gallu gweud bron o fod brawddeg llawn yn yr iaith faen gyda ambell i "a" neu "ond" rhwngddo dwsin o eirie yn y sisneg. Hollol gwallgof bod e dal yn yn cael ei ysyried fel sylwebydd/pwndit.

Yng ngwrthwyneb, dwin meddwl fod Gwennan Harries yn ardderchog. Mae ei chymraeg yn cywir iawn (o be dwin deall) a ma be maen gweud yn hollol synhwyrol .
Cytuno gyda ti am Gwennan Harries. Mae ei Chymraeg hi yn dda iawn. Efallai ro'n ni'n hallt gyda fy sylwadau am John Hartson. Hawdd i feirniadu fe, yn enwedig gan ei fod nawr yn byw i ffwrdd o Gymru (rwy'n credu?). Ond fel wedais i, mae e ar bob gem Cymru ac er dwi'n teimlo'n wael yn dweud hyn, sai'n gweld ei Gymraeg yn gwella. S4C yn amlwg yn cyflogi fe gan ei fod yn enw mawr, ond mae'r lefel o "Wenglish" yn anhygoel ar adegau.

Esiampl da o rhywun sydd wedi gwella ei Gymraeg ers fod ar y teledu yw Andrew Coombs (rygbi). Mae e'n dod o bentref sy'n agos i le dwi'n byw yn y cymoedd. Lot o ysgolion Cymraeg o gwmpas yma ond wnei di ddim clywed lot o Gymraeg ar y stryd, mewn siopau etc. Dwi ddim yn ei nabod ond dwi'n cymryd wnaeth e ddim defnyddio'r iaith lot ar ol gadael ysgol, ond mae safon ei Gymraeg ar S4C yn dda iawn....a fel ti'n dweud am Gwennan Harries, mae e'n siarad lot o sens hefyd.