Ges i sioc neithiwr i weld Sol ar y fainc. Roeddwn ni'n meddwl taw Morrison/Bamba oedd hoff gyfuniad Warnock, nid Morrison/Manga. Dwi'n hoffi'r tri ohonyn nhw, felly does dim lot o ots gen i.

Ti'n iawn am y chwys....work rate fel mae'r Saes yn dweud. Credu bod Warnock yn hoffi cymysgedd o chwaraewyr dawnus, cyflym (fel Hoilett, NML, Zohore, Grujic) a'r rhai sydd yn gweithio'n galed (Peltier, Ralls, Bryson, Ward, Madine etc).

Dwi'n hoffi ti'n defnyddio'r gair "ambyti". Mae hynny'n gair hen ffasiwn o'r cymoedd!