Originally Posted by
pgbluebird
Bydd hi'n anodd... Dwi'n meddwl na'r peth pwysicaf ydy rhoi cyfle i'r un tim ddechrau dwy gem yn olynol am y tro cyntaf (?) y tymor hwn, a rhoi hyd yn oed mwy o hyder i'r tim wedi buddugoliaeth. Un peth sy'n sicr yw bydd y teimlad ofewn y garfan y gorau mae wedi bod drwy'r tymor felly pwy a wyr beth ddigwyddith.
Dw i ddim yn hyderus, ond ar yr un pryd fyswn i ddim yn synnu petawn ni'n dwyn pwynt. Bechod mewn ffordd bod Arter heb gael melyn arall - tebyg iddo golli gem bwysicach rwan...