Announcement

Collapse
No announcement yet.

Malcolm Allen

Collapse
X
 
  • Filter
  • Time
  • Show
Clear All
new posts

  • #16
    Re: Malcolm Allen

    Shw mae! Wyt ti dal ar y bwrdd yma? Est ti i'r gem ddoe? Diwrnod i fwynhau, heb os.

    Comment

    • #17
      Re: Malcolm Allen

      Newydd ail-ddechrau postio ar hwn ers cwpwl fisoedd, ddim yn gwneud llawer, ond nes i sylwi bod llawer or hen enwau ddim ar hwn, ac wedi sylwi wedi i chi ddeud bod nhw ar OOCC...

      Pam bo nhw wedi cychwyn y bwrdd yna? Odd genai'm syniad bod o'n bodoli tan nawr, gwneud synnwyr.

      Comment

      • #18
        Re: Malcolm Allen

        Son am sylwebwyr... ma john hartson yn tueddu i ddefnyddio lot o eiriau bach neu termau yn y saesneg. Dwin ffindio fen doniol os unrhyw beth.

        Dwin cydymdeimlon llwyr gyda fe achos ma llawer o dermau peldroed yn amhosib cyfieithu weden i, yn enwedig os mae gyd o dy brofiad yn gem wedi cael eu dreulio yn Lloeger/Yr Alban.

        Through the channels
        Sending off offence
        VAR
        Bend it round the wall
        Backpass
        Lone frontman
        Wing-back

        Basen i’n stryglo i gyfieithu yr uchod (er enghraifft).

        Comment

        • #19
          Re: Malcolm Allen

          Originally posted by pgbluebird View Post
          Newydd ail-ddechrau postio ar hwn ers cwpwl fisoedd, ddim yn gwneud llawer, ond nes i sylwi bod llawer or hen enwau ddim ar hwn, ac wedi sylwi wedi i chi ddeud bod nhw ar OOCC...

          Pam bo nhw wedi cychwyn y bwrdd yna? Odd genai'm syniad bod o'n bodoli tan nawr, gwneud synnwyr.
          Dwi ddim yn siwr. Dyma'r bwrdd dwi'n hoffi. Mae ambell un sydd wedi mynd draw i OOCC yn golled, ond mae dal digon o bobl da sy'n sy'n gwneud sylwadau yma.

          Comment

          • #20
            Re: Malcolm Allen

            Originally posted by Divine Wright View Post
            Son am sylwebwyr... ma john hartson yn tueddu i ddefnyddio lot o eiriau bach neu termau yn y saesneg. Dwin ffindio fen doniol os unrhyw beth.

            Dwin cydymdeimlon llwyr gyda fe achos ma llawer o dermau peldroed yn amhosib cyfieithu weden i, yn enwedig os mae gyd o dy brofiad yn gem wedi cael eu dreulio yn Lloeger/Yr Alban.

            Through the channels
            Sending off offence
            VAR
            Bend it round the wall
            Backpass
            Lone frontman
            Wing-back

            Basen i’n stryglo i gyfieithu yr uchod (er enghraifft).
            Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.

            Comment

            • #21
              Re: Malcolm Allen

              Originally posted by Gnojek View Post
              Cytuno gyda ti. Dwi ddim yn hoff iawn o Hartson. Fi'n credu aeth e i Ysgol Gyfun Gwyr (ysgol Gymraeg) ond dydy ei Gymraeg ddim yn dda iawn. I fod yn deg mae e wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hir, ond dwi'n synnu nag ydy S4C wedi rhedeg "refresher course" iddo fe. Mae Ben Davies a Joe Allen wedi bod i ffwrdd o Gymru am amser hefyd, ond mae eu Cymraeg nhw yn dda.

              Dwi wedi ail-ystyried fy marn ar JH a ie, tin hollol iawn, ma fe i weld yn cymrud y piss erbyn hyn! Dwin meddwl os unrhyw beth mae ei gymraeg wedi gwaethygu dros y flynyddoedd. Dwin tiwno mewn ir gemau rhyngwladol a win ffindio hin anghredadwy ar adegau fel mae JH yn gallu gweud bron o fod brawddeg llawn yn yr iaith faen gyda ambell i "a" neu "ond" rhwngddo dwsin o eirie yn y sisneg. Hollol gwallgof bod e dal yn yn cael ei ysyried fel sylwebydd/pwndit.

              Yng ngwrthwyneb, dwin meddwl fod Gwennan Harries yn ardderchog. Mae ei chymraeg yn cywir iawn (o be dwin deall) a ma be maen gweud yn hollol synhwyrol .

              Comment

              • #22

                Cytuno gyda ti am Gwennan Harries. Mae ei Chymraeg hi yn dda iawn. Efallai ro'n ni'n hallt gyda fy sylwadau am John Hartson. Hawdd i feirniadu fe, yn enwedig gan ei fod nawr yn byw i ffwrdd o Gymru (rwy'n credu?). Ond fel wedais i, mae e ar bob gem Cymru ac er dwi'n teimlo'n wael yn dweud hyn, sai'n gweld ei Gymraeg yn gwella. S4C yn amlwg yn cyflogi fe gan ei fod yn enw mawr, ond mae'r lefel o "Wenglish" yn anhygoel ar adegau.

                Esiampl da o rhywun sydd wedi gwella ei Gymraeg ers fod ar y teledu yw Andrew Coombs (rygbi). Mae e'n dod o bentref sy'n agos i le dwi'n byw yn y cymoedd. Lot o ysgolion Cymraeg o gwmpas yma ond wnei di ddim clywed lot o Gymraeg ar y stryd, mewn siopau etc. Dwi ddim yn ei nabod ond dwi'n cymryd wnaeth e ddim defnyddio'r iaith lot ar ol gadael ysgol, ond mae safon ei Gymraeg ar S4C yn dda iawn....a fel ti'n dweud am Gwennan Harries, mae e'n siarad lot o sens hefyd.

                Comment

                Working...
                X